ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Os ydych chi wedi bod yn dilyn ein taith drwy droeon a throfeydd chwaraeon dŵr, byddwch chi'n gwybod ein bod ni'n dathlu ein dengmlwyddiant eleni, a gallwn gadarnhau bod yr ystrydeb yn wir – mae amser wir yn brysio heibio wrth gael hwyl.

Er yn amlwg mai lansio DGRhC oedd digwyddiad mwyaf nodedig 2010, rydyn ni wedi penderfynu cnoi cil ar rai o’r pethau arwyddocaol eraill a fu’n cyfareddu'r cyhoedd ddegawd yn ôl. Dyma'r uchafbwyntiau:

Dechreuodd y flwyddyn gydag agoriad swyddogol y Burj Khalifa yn Dubai (4 Ionawr). Yn llawer uwch nag adeilad yr Empire State, y strwythur yn yr Emiradau Arabaidd Unedig yw'r adeilad talaf a wnaed gan ddyn erioed.

Dilynwyd hyn yn fuan gyda lansiad anferthol arall, ym maes technoleg y tro hwn. Ar 27 Ionawr, datgelodd y cawr technolegol, Apple, ei iPad cyntaf – gan ychwanegu at ei iPod – a chwyldroi byd cyfrifiaduron llechen.

Yn y cyfamser, ac ychydig yn llai cyffrous i Apple, dechreuodd rhywfaint o gystadleuaeth go iawn gyrraedd y farchnad ffonau clyfar gydag Android yn dod yn fwy poblogaidd.

Clec technegol arall oedd Microsoft yn ymuno â Yahoo mewn ymgais i herio ymerodraeth bori Google drwy dechnoleg chwilio amgen (gan gyfuno 'Bing' a Search gan Yahoo).

Hefyd yn hyrddio trwy’r byd ym mis Chwefror 2010 cafwyd y "Snowmageddon", cyfres o wyntoedd gaeafol mawr a gladdodd yr Unol Daleithiau dan dros 40 modfedd o eira yn gyflymach nag erioed, ac a anogodd yr arlywydd ar y pryd, Obama, i roi'r ffugenw ar y ffenomenon.

Mae'n debyg y bu’r eira yng Ngogledd America yn newyddion da i bawb a fu'n cystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf. Cynhaliwyd y rhain yn Vancouver, Canada, yr un mis, a denodd y gemau dros 2,500 o athletwyr yn cynrychioli mwy nag 80 o wledydd. Daliodd y wlad groeso ei thir ac ennill y nifer fwyaf o fedalau aur y flwyddyn honno, a’r Unol Daleithiau (yn benderfynol o wneud y gorau o Snowmagedon) enillodd y cyfanswm mwyaf o fedalau.

Ar ôl i'r iâ mawr ddadmer, cwblhaodd Jessica Watson ei thaith hwylio ddi-dor o amgylch y byd yng nghanol mis Mai, gan ddod y person ieuengaf i wneud hyn, yn 16 oed.

Yn ystod yr haf, cynhaliwyd Cwpan y Byd FIFA 2010 yn Ne Affrica. Sbaen ddaeth i’r brig, yr Iseldiroedd yn ail a'r Almaen yn drydydd. Er iddynt adael yn rownd gyntaf, gosododd Seland Newydd ei record ei hun fel yr unig dîm na chafodd ei drechu yn y gystadleuaeth y flwyddyn honno.

Camodd Cwpan y Byd FIFA i dir diwylliant pop, gan ddiffinio sŵn haf 2010 gyda chwaon y vuvuzelas (cyrn hir y buodd cefnogwyr yn eu chwythu yn ystod y gemau), a thôn ddigamsyniol anthem swyddogol y twrnament, "Waka Waka (this Time for Africa)" a Shakira yn ei chanu. Cafodd ei hysbrydoli gan gân draddodiadol milwyr yn Affrica a châi e pherfformio yn Saesneg a Sbaeneg gyda band o Dde Affrica, Freshlyground.

Yn ddigon rhyfedd, roedd y vuvuzelas yn tarfu gymaint fel y bu llawer o gwynion gan chwaraewyr, a oedd yn credu bod yr offerynnau swnllyd yn amharu ar perfformiadau’r timau, a hefyd gan gynulleidfaoedd gartref, a ddywedai eu bod yr amharu ar y llif sain. O ganlyniad, edrychodd llawer o rwydweithiau, gan gynnwys ESPN a'r BBC, ar gynnig darllediadau a’r sŵn wedi ei hidlo ohonynt.

 

Roedd caneuon poblogaidd eraill (a oedd yn aflonyddu llai) yn 2010 yn cynnwys "Tik Tok" gan KE$ha, a aeth i frig y siartiau fel cân rhif un y flwyddyn honno, yn ogystal ag anthem y merched, "California Gurls" gan Katy Perry a'r holl-gwmpasog "Hei, Soul Sister" gan Train, a fyddai’n treiddio eich taith gymudo, prydau bwyd allan, ac yn raddol, eich breuddwydion hefyd.

Yn yr haf tyngedfennol hwn hefyd y ganwyd One Direction, fel cystadleuydd X ffactor a oedd yn cynnwys y cyn-gystadleuwyr unigol: Harry Styles, Zayn Malik, Niall Horan, Liam Payne a Louis Tomlinson, sy'n beth anhygoel o ystyried eu bod ers hynny wedi cynhyrfu’r dyfroedd cerddorol, gwahanu a datblygu eu gyrfaoedd unigol eu hunain!

Yn y cyfamser yn y byd technolegol, roedd cyd-ddatblygwyr Instagram yn cynnal y postiadau prawf cyntaf ar y llwyfan cyfryngau cymdeithasol, cyn lansio'n swyddogol ym mis Hydref 2010.

Roedd ei gystadleuydd Facebook ar flaen y gad y flwyddyn honno, ac roedd yr obsesiwn yn ymdreiddio i bob elfen o ddiwylliant poblogaidd. Cafodd y sylfaenydd, Mark Zuckerberg, ei enwi'n berson y flwyddyn gan gylchgrawn Time, a chafodd The Social Network (y ffilm fawr yn portreadu creu Facebook) Oscar Sgript Sgrin wedi ei Haddasu Orau.

Enillydd Oscar nodedig arall yn 2010 oedd Toy Story 3, a enillodd Oscar Ffilm Hir Animeiddio Orau. Gan hel atgofion plentyndod, dangoswyd hi’n gyntaf ar 12 Mehefin ac aeth yn ei blaen i fod yn ffilm fwyaf ariannol llwyddiannus y flwyddyn, gan wneud marc mewn hanes fel yr animeiddiad cyntaf erioed i ennill mwy na biliwn o ddoleri yn y swyddfa docynnau. 

Lai na mis ar ôl hoff ddilyniant animeiddio pawb, cafwyd cawr o ffilm arall. Rhyddhawyd Inception ar 8 Gorffennaf, ac er na chafodd Leonardo DiCaprio Oscar am ei berfformiad, cafodd y ffilm ei hun Oscar Sinematograffi Gorau ac Effeithiau Gweledol Gorau.

Enillodd The King’s Speech Oscar y Ffilm Oorau (yn ogystal â nifer o gategorïau eraill), gydag arweinydd (a’r pishyn) Colin Firth aeth â’r wobr Actor Gorau, a Natalie Portman gafodd y wobr Actores Orau am ei pherfformiad ingol yn Black Swan.

Ymhlith cyfraniadau nodedig eraill o'r byd ffilm a theledu roedd rhan un Harry Potter and the Deathly Hallows, a oedd yn nodi dechrau diwedd y ffenomen a fu'n diddanu cenedlaethau, yn ogystal â phremiere The Walking Dead a ailgynnodd ein cariad (ac ofn) at sombïod.